Gwasanaeth celfyddyd a iechyd i bobl hŷn ar draws Sir Gaerfyrddin. Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan ein partneriaid yn Cysylltu Sir Gaerfyrddin ac yn eu paru gyda hwylusydd proffesiynol PSU ac artist.
Gwasanaeth celfyddyd ac iechyd i bobl hŷn sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin yw’r Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref, i’r bobl hynny sy’n derbyn neu mewn perygl o fod angen gofal yn y cartref. Arweinir y prosiect gan People Speak Up (PSU) ac fe’i cefnogir gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Cysylltu Sir Gâr, Pobl a Nacro a’i nod yw gwella iechyd meddwl, llesiant ac iechyd corfforol a lleihau unigrwydd trwy ddarparu gweithgareddau creadigol yn y cartref.