Am yr ychydig wythnosau nesaf rydym yn rhedeg gweithdai ar thema Gardd a Chrefft am ddim, diolch i gyllid gan Leoedd Lleol i Natur.
Fel rhan o P’nawniau Arty yn People Speak Up, Llanelli, bydd ein Cydlynydd Gwirfoddolwyr a Gardd Gymunedol, Cerys, yn arwain sesiwn lle gallwch chi archwilio defnyddio cynnyrch organig fel ffrwythau, llysiau, clai a phridd fel pigmentau paentio fel dewis gwahanol.
Mae’n sesiwn am ddim ac mae croeso i bawb.
Mae’n wythnos hanner tymor Chwefror ac rydym yn cynnal dau weithdy rhwng y cenedlaethau sydd ar agor i unrhyw un - pobl ifanc, oedolion a rhai o’n cyfranogwyr hŷn. Ffordd wych o fwynhau’r awyr agored yr hanner tymor hwn.
Dysgwch sut i ddefnyddio ffabrigau a deunyddiau’r ardd fel glaswellt a phlanhigion eraill i blethu creadigaethau gwahanol a gobeithio y gallwn ni hyd yn oed wneud ffens i ardd PSU.
Fyddech chi’n hoffi helpu i wneud Gwesty Pryfed PSU a fydd yn sefyll tu allan i’n cartref yn People Speak Up, Stryd y Parc, Llanelli. Rydym yn anelu at ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy naturiol i greu gwesty i’n ffrindiau yn yr ardd.
Mae’r gwanwyn yn y gwynt ac rydym eisoes yn meddwl am raglen ein Gardd Gymunedol yn 2025...
Hoffech chi ddysgu mwy am arddio neu fyddech chi’n hoffi rhannu awgrymiadau a chyfarfod ffrindiau eraill sy’n hoffi garddio?
Rydym yn gobeithio dechrau Clwb Garddio newydd yma yn PSU yn Llanelli yn yr wythnosau nesaf. Rydym yn gobeithio cynnal clwb bob pythefnos sy’n cyfarfod yn PSU ac efallai y byddant am wirfoddoli a’n helpu i dyfu a chynnal ein gardd gymunedol hefyd. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Cerys ar:
cerys@peoplespeakup.co.uk
Mae arnom eich angen chi! Mae ar eich Cymuned eich angen chi!
Os gwelwch yn dda dilynwch y ddolen neu sganiwch y Cod QR i’r arolwg.
Rydym yma wrth law i’ch helpu i lenwi’r arolwg os bydd angen.
Sylwer, ar gyfer y cwestiwn olaf...
“Os oes sefydliad arall wedi eich helpu / hyrwyddo i lenwi’r arolwg, nodwch enw’r sefydliad yma.” Nodwch PSU yma.