Prosiect Morfa

Comisiynwyd People Speak Up gan y Ganolfan Blant Integredig ym Morfa, Llanelli, i weithio gyda phlant i archwilio cysylltiadau cadarnhaol, deall hawliau a chyfrifoldebau, canlyniadau gweithredoedd a theimlo eu bod wedi eu grymuso trwy ddod o hyd i’w llais yn eu cymuned.
Yng nghanol cymuned Morfa, dros 14 wythnos, defnyddiodd ein tîm o bobl greadigol amrywiol ffurfiau celfyddydol i greu gofod i archwilio hunaniaeth, cymuned a llais.
Trawsnewidiodd y gerflunwraig leol Mared Davies fetel yn dyst i wytnwch a chysylltiad. Creodd y plant ddwylo - pob un yn symbol o’u hawliau ac yn llusern o bositifrwydd. Mae’r dwylo yma, wedi eu haddurno â geiriau gobeithiol, yn ffurfio dail coeden – Y Goeden Ddoethineb.
Mae’r Goeden Ddoethineb hon yn sefyll fel symbol grymus o’u dyfodol, eu gobeithion a’u breuddwydion. Mae’n cynrychioli adfywiad, twf ac ysbryd di-ildio ein cymuned.
Gyda’n gilydd rydym yn meithrin y breuddwydion yma, gan annog yfory gwell i bawb.