Un i Un Creadigol

Yn ystod y Cyfnod Clo, comisiynodd Cyngor Sir Caerfyrddin People Speak Up i greu rhaglen canolfan ddydd rithwir bwrpasol ar gyfer pobl hŷn sy'n byw mewn ynysigrwydd ledled Sir Gaerfyrddin. Yna datblygwyd cyfleoedd dydd hybrid. Gwasanaeth cyflwyno hybrid pwrpasol, gan ddefnyddio dull adrodd straeon i gefnogi'r gofalwr a'r person sy'n derbyn gofal. Oherwydd llwyddiant canlyniadau'r prosiect hwnnw - cafodd Un i Un Creadigol ei gomisiynu wedyn gan Gyngor Sir Caerfyrddin a Grŵp Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru o fis Mawrth 2023 - Medi 2023.

Mae Un i Un Creadigol wedi cefnogi 7 gofalwr a 7 person sy'n derbyn gofal yn wythnosol. Roedd y prosiect yn cynnig ymweliad cartref wythnosol a sesiwn grŵp yn y Ffwrnes Fach, canolfan gelfyddyd, iechyd a lles Llanelli. Croesawyd gofalwyr i ymgymryd â'r sesiynau a'u mwynhau gyda'r person y ma’ nhw’n gofalu amdano, neu i gymryd seibiant o'u rôl gofalu a chael amser iddyn nhw eu hunain tra bod y person y ma’ nhw’n gofalu amdano yn cymryd rhan yn y gwasanaeth. Roedd y prosiect yn canolbwyntio ar ymgysylltu pobl mewn cyfleoedd creadigol fel ysgrifennu creadigol, cerddoriaeth, adrodd straeon, gemau a'r celfyddydau gweledol, cerddoriaeth, canu, dawnsio.

Ffigurau presenoldeb
Cyfanswm nifer y gofalwyr a fanteisiodd: 7
Cyfanswm nifer y rhai sy'n derbyn gofal: 7
Cyfanswm nifer y cyfranogwyr a fynychodd sesiynau yn y Ffwrnes Fach: 220
Nifer yr ymweliadau cartref: 203

 



Astudiaeth Achos
(Mae enwau'r cyfranogwyr wedi'u hanonymeiddio)
Bill a Susan
Mae Bill a Susan wedi bod yn cael 1 ymweliad cartref yr wythnos ac yn mynychu ein grŵp Amser Dishgled yn wythnosol. Cafodd Susan ddiagnosis o ddementia yn 2017. Gweithgareddau sydd wedi digwydd yw - canu, chwarae synhwyraidd, chwarae piano ar yr ipad, chwarae offerynnau cerdd. Cymerodd Bill yr amser i ddangos ei feic modur i ni, y celf ar y waliau a'r stori y tu ôl iddo. Rhoddodd hyn arwydd i ni fod yr ymweliadau cartref o fudd i Bill a Susan. Gyda hyn mewn golwg, pan oedd dau hwylusydd PSU yn ymweld, byddem yn aml yn chwarae gyda'r deinameg o un hwylusydd yn ymgysylltu â Bill a'r llall yn canolbwyntio ar Susan. Roedd hyn yn caniatáu iddynt gael amser i ymgysylltu â gwahanol sgyrsiau / gweithgareddau. Golyga hyn eu bod yn cael seibiant o'u rolau gofalu ond tra'n dal i fod yn bresennol yn yr un gofod gyda'i gilydd. Cyn gynted ag y byddai Susan yn clywed cerddoriaeth, byddai'n chwibanu, byddai ei llygaid yn goleuo a byddai weithiau'n dangos ei hymgysylltiad trwy ddal ein llaw.
"Mae Susan yn ei charu hi yn y Ffwrnes fach oherwydd bod pawb yn gwneud ffws ohoni."

Cwestiynau wedi'u hateb gan Bill (gofalwr a gŵr Susan)
1 - Ers faint ydych chi wedi bod yn ofalwr?
Chwe blynedd

2 - Fel gofalwr, a oes unrhyw rwystrau rydych chi'n eu hwynebu wrth ofalu am rywun? Beth fyddai'n helpu gyda hynny?
Y prif rwystrau yw'r teimlad o fod yn ddiymadferth wrth geisio'n galed i ofalu am rywun sy'n bartner bywyd i chi a'r amser y gall ei gymryd i gael unrhyw fath o help. Doedd Covid ddim yn helpu, ond hyd yn oed nawr mae sefydliadau ac awdurdodau yn cuddio y tu ôl i esgusodion Covid i wneud ychydig iawn. Nawr mae help ar gael, ond gyda'r system Gofal Cymdeithasol yn dal mewn anhrefn, fel Gofalwyr mae'n rhaid i ni ddal i ddarparu gofal 24/7. Y mater arall yw diffyg Gofal Seibiant am ychydig ddyddiau, yn enwedig pan nad oes gan rywun lawer o symudedd.

3 - Ydych chi'n teimlo y gallai cael rhywfaint o amser i chi'ch hun wella eich profiad / perthynas o fod yn ofalwr?
Mae'n help enfawr i gael seibiant, i ailwefru, gan wybod bod Susan yn cael gofal, hyd yn oed gyda gwasanaeth eistedd.
Ydw, nawr mae gennym gefnogaeth Gofal Crossroads ar ddydd Llun am 4 awr. Dydd Mawrth oedd 2 awr o Ofal Buddy a oedd yn mynd â Jean allan yn y car, bydd hynny'n cynyddu i 4 awr cyn bo hir. Dydd Mercher a dydd Iau, mae Susan yn mynd i'r Ganolfan Ddydd yn wreiddiol Garnant, ar hyn o bryd Gwynfryn nes bod Garnant yn ailagor ym mis Mehefin, rydw i'n ei chludo yno am 9am ac yn ei chasglu am 4pm. Mae hi hefyd yn cael bwyd, diodydd a chinio yn y Ganolfan Ddydd. Dydd Gwener rydyn ni'n mynychu Grŵp Elevenses PSU yn Llanelli, a ni'n edrych ymlaen at hynny bob wythnos.

 

 


Astudiaeth Achos
(Mae enwau'r cyfranogwyr wedi'u hanonymeiddio)
Jess a Robert
Robert yw gofalwr a gŵr Jess. Cafodd Jess ddiagnosis o Alzheimer yn 2021. Roedd y ddau yn mynychu'r sesiynau Amser Dishgled wythnosol ac ymweliad cartref unwaith yr wythnos. Yn ystod yr ymweliadau cartref, cymerodd Robert y cyfle hwn i gael amser iddo'i hun. Yna byddent yn mynychu'r sesiynau Amser Dishgled gyda'i gilydd. Gweithgareddau sydd wedi digwydd yw – Symud, celf a chrefft, adrodd straeon. Yn ystod ein hymweliadau, mae Jess wedi mynegi sawl gwaith ei bod yn teimlo does dim digon o wybodaeth am ddementia, mae hi wedi cael syniad i greu rhywbeth y gellir ei rannu trwy'r rhyngrwyd i godi ymwybyddiaeth. Cynhyrchodd hyn drafodaethau mewn un o'n sesiynau Amser Dishgled. Yn ystod y sesiwn, siaradodd y grŵp yn agored am eu profiad gyda dementia, yr anawsterau maen nhw'n eu hwynebu a chawsant sgwrs am sut maen nhw'n delio â'r gwahanol sefyllfaoedd sy'n codi mewn bywyd bob dydd. Ar ôl y sesiwn, roedd Jess yn ddiolchgar a sylwodd "Roedd mor wych cael sgwrs agored gyda phawb, byddai'n wych pe bawn ni’n ei wneud eto gyda mwy o sefydliadau yn yr ystafell." Mae hwn yn bwnc pwysig iawn ac awgrymodd y tîm greu fideo neu bodlediad gyda hi. Roedd hi'n agored i'r syniad ond oherwydd bod ei dementia yn gwaethygu ac yn cael mwy o ddyddiau gwael – nid yw hi wedi teimlo'n ddigon da i'w wneud. Fodd bynnag, ysbrydolodd hyn aelod arall o'r grŵp elevenses a wnaeth greu podlediad gyda'r artist Rufus Mufasa.

Gwybodaeth gan Robert o ran ei rôl gofalu:
1 - Dw i wedi bod yn ofalwr yn swyddogol ers tua dwy flynedd, yn dilyn diagnosis Jess o Alzheimer, ond cyn y diagnosis ro’n i'n gofalu am Jess ers rhai blynyddoedd.

2 - Mae gofalu am Jess yn weithgaredd pedair awr ar hugain y dydd, bob un dydd.
Mae gweithgareddau'n cynnwys glanhau’r tŷ, golchi, coginio a siopa. Cynnal a chadw o fewn y cartref, yr ardd, a chynnal a chadw cerbydau, yn ogystal â chyfrifoldeb am gludiant personol a chyhoeddus.


Delio â nyrsys, meddygon a fferyllwyr a'u gweinyddwyr i sicrhau bod gan Jess y feddyginiaeth gywir ar gael ar yr amser cywir, a bod Jess mewn gwirionedd yn cymryd y feddyginiaeth.
Mae'r rhestr yn parhau ac yn sylweddol, ond yr agwedd fwyaf blinedig yw'r cyfrifoldeb cyson am iechyd, lles a hapusrwydd person arall, yn enwedig pan na all y person chi'n gofalu amdano bob amser ddweud wrthych chi beth sy'n bod, ac mae gen i broblemau corfforol fy hun, diffyg symudedd ac ati.
Beth fyddai'n helpu yw rhywun, neu sefydliad, i gymryd cyfrifoldeb am unrhyw un o'r gweithgareddau a restrir uchod hyd yn oed pe bai un gweithgaredd yn cael ei dynnu (glanhau ac ati) byddai'n fy rhyddhau i gael mwy o amser i ymlacio, gan dynnu pwysau oddi ar fy ysgwyddau. Yr hyn sy'n fy atal rhag manteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan sefydliadau i gyflawni rhai o'r gweithgareddau, fel garddio, glanhau, golchi, cynnal a chadw cerbydau yw cost, mae llawer o sefydliadau yn cynnig help rheolaidd, ond am gost uchel.

3 - Byddai cael rhywfaint o amser i ffwrdd o fy rôl gofalu yn fy helpu i fel y gofalwr, byddai hefyd yn rhoi'r profiad buddiol i Jess o gyfathrebu â phobl heblaw fi.

4 - Nid oes gennyf unrhyw gefnogaeth fel gofalwr ar hyn o bryd.

Wrth wirio gyda Robert o ran ei fyfyrdodau ar y prosiect – sylwodd sut roedd ei rôl gofalu wedi dod yn gynyddol anodd. Mae gan Jess weithiwr cymdeithasol nawr sy'n mynd â hi allan bob dydd Gwener, sy'n golygu ei bod yn colli'r sesiwn Amser Dishgled. Gyda chymorth People Speak Up - mae hi hefyd nawr ar y rhestr aros i fynychu canolfan ddydd unwaith neu ddwywaith yr wythnos. Gyda hyn ar waith, mae Robert yn teimlo y bydd yn gallu cael mwy o amser iddo'i hun a gwell cydbwysedd mewn bywyd.
Mae Jess a Robert nawr yn mynychu ein grŵp cymdeithasol dros 50 oed bob dydd Llun lle maen nhw'n cymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau fel symud, cerddoriaeth, celfyddydau gweledol, adrodd straeon, ysgrifennu. Mae Robert hefyd wedi dechrau mynychu ein grŵp Dynion yn Clebran. – Grŵp i ddynion ddod at ei gilydd, siarad a chreu.

 


Astudiaeth Achos
(Mae enwau'r cyfranogwyr wedi'u hanonymeiddio)
Rosie a Julia
Julia yw merch a gofalwr Rosie. Mae Rosie yn byw ar ei phen ei hun ac mae ei merch yn byw yng Nghaerdydd. Mae hyn yn arwain at Rosie yn treulio llawer o amser ar ei phen ei hun. Mae ganddi ofalwyr yn dod i mewn yn ddyddiol. Nid yw'n gadael y tŷ. Mae ei merch yn awyddus i ddod â hi i lawr pan fydd ganddi amser, ond mae Rosie yn betrusgar i adael y tŷ gan ei bod mor hir ers iddi wneud hynny ddiwethaf.

Sylwadau Julia ar fod yn ofalwr i Rosie:
1 - Ers faint ydych chi wedi bod yn ofalwr?
Dw i wedi bod yn ofalwr i fy mam ers saith mlynedd.

2 - Fel gofalwr, a oes unrhyw rwystrau rydych chi'n eu hwynebu wrth ofalu am rywun? Beth fyddai'n helpu gyda hynny?
Mae wedi bod yn anodd ar adegau yn enwedig yn ystod covid ond fe wnaethon ni ymdopi.

3 - Ydych chi'n teimlo y gallai cael rhywfaint o amser i chi'ch hun wella eich profiad / perthynas o fod yn ofalwr?
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf dw i wedi cael tair llawdriniaeth a wnaeth wneud bywyd yn anodd iawn. Yn ffodus mae gen i ŵr gwych ac mae e wedi bod yn gefnogol iawn.

4 - Ydych chi ar hyn o bryd yn cael unrhyw gefnogaeth ychwanegol i chi'ch hun fel gofalwr?
Mae gan fy mam ofalwyr yn dod i mewn bedair gwaith y dydd ac mae hynny wedi helpu'n fawr.

Yn ystod ymweliadau Rosie, cynhaliwyd amrywiol weithgareddau fel adrodd straeon, barddoniaeth, gemau. Byddai Ruth yn rhannu llawer o'i straeon am sut y teithiodd trwy Canada ac America, gan ddangos lluniau o aelodau ei theulu a oedd o gwmpas y lolfa. Pan fyddai'n adrodd y straeon hyn, byddai'n ymgolli'n llwyr ac yn hapus wrth eu hadrodd fel petai'n ôl yn y momentau hynny. Ro’n ni’n aml yn dangos fideos a lluniau i Rosie o'r hyn ni wedi bod yn ei wneud yn y Ffwrnes Fach gan ei bod wrth ei bodd yn gweld yn weledol beth sydd wedi bod yn digwydd yn y grwpiau eraill. Mae'n ymddangos ei bod yn mwynhau pan fyddwn yn dod â darn o'r byd tu allan ati gan nad yw hi'n mynd allan mwyach. Cafodd Rosie ei phen-blwydd yn 99 oed yn ddiweddar a rhannodd ei chacen pen-blwydd gyda ni wrth ymweld. Sylwodd Julia ei bod hi'n gyffrous i ddweud wrthym am ei dathliadau pen-blwydd lle daeth yr holl deulu o Loegr i ymweld.

Wrth siarad â Julia am y potensial i Rosie ymuno ag un o'r grwpiau, mae hi wedi dweud mai dyna yw ei nod gan fod ganddi gar addas i'w chymryd. Mae Rosie wedi dweud y byddai'n dwlu dod, ond mae Julia wedi crybwyll na fydd hi'n ei wneud oherwydd nad yw wedi gadael y tŷ ers blynyddoedd. Mae hwn yn rhywbeth a fydd yn cymryd mwy o amser i weithio arno, i feithrin yr hyder i wneud y camau hynny.

Myfyrdodau Julia ar y prosiect:
"Rhaid i mi ddiolch i'ch staff, mae eu hymweliadau’n torri ar draws yr wythnos i mi a fy mam. Mae'r gwasanaeth yn wych, mae'n anhygoel bod gennych chi'r amser i'w wneud, ro’n i'n dweud wrth gymdog Rosie, ac ni allai hi gredu pa mor dda yr oedd yn swnio."



Canfyddiadau Ychwanegol
Gofynnwyd ar sawl achlysur i wneud "cyfarfod grŵp" lle byddem yn cwrdd â'r holl gyfranogwyr gyda'i gilydd mewn man cyhoeddus fel caffi lleol. Gwnaethom hyn 5 gwaith trwy gydol y prosiect, a rhoddodd hyn gyfle nhw i gyd adeiladu cyfeillgarwch y tu allan i'r sesiynau Elevenses. Sydd wedi arwain at iddynt fynd allan i grwpiau ac am ginio heb i ni fod yn rhan ohono. "Rydw i'n dwlu ar y cyfarfodydd grŵp" "Mae mor wych bod allan gyda'n gilydd."

Mae cwpl, sydd wedi bod yn mynychu'r grŵp Amser Dishgled ac ymweliadau cartref, bellach wedi symud i gartref gofal yn Blackpool oherwydd bod angen mwy o ofal, a byddai hyn yn golygu bod yn agosach at deulu. Mae'r cyfranogwyr yn y prosiect hwn wedi cysylltu â'i gilydd, felly roedd hon yn foment fawr i bawb. Fodd bynnag, mae'r cyfranogwyr yn dal i gysylltu â'r cwpl ac maen nhw'n aml yn anfon lluniau o'u hamser yn Blackpool, sy'n cael eu rhannu wedyn yn y sesiynau Amser Dishgled. Mae hyn yn dangos, beth bynnag fo'r pellter, bod y grŵp wedi adeiladu cysylltiad sy'n mynd y tu hwnt i'r prosiect hwn. Maen nhw'n bwriadu cysylltu trwy zoom i mewn i un o'n sesiynau cyn bo hir.

I gloi, mae angen enfawr am y gwasanaeth. I alluogi'r rhai sy'n ynysig i gael amser i siarad, cael gwrandawiad, bod yn greadigol ac i gael clywed eu llais, hyd yn oed ar bwynt lle ma’ nhw'n teimlo nad oes ganddyn nhw un mwyach. Fel y nodwyd yn y canfyddiadau, trodd rhai cyfranogwyr i fynychu'r grwpiau a doedd rhai ddim wedi. Ar gyfer y rhai a allai gymryd llawer mwy o amser i ymuno â grŵp cyhoeddus, mae'n hanfodol bod y ffocws yn cael ei roi ar wneud eu bywyd cartref yn ymgysylltiol ac yn gyfforddus. Gellir gwneud hyn trwy ddod â gweithgareddau a sgyrsiau atynt sy'n caniatáu iddynt ymgolli ynddynt. Gall gweithgareddau creadigol eu galluogi i ymgysylltu â rhywbeth hyd yn oed ar y dyddiau lle nad oes neb yn ymweld, gan y gallant adeiladu ar y creadigaethau ar eu pen eu hunain. Golyga hyn fod ganddynt ffocws cadarnhaol trwy gydol yr wythnos ac nid ar ddyddiau penodol yn unig. I hyn ddigwydd, mae amser yn hanfodol. Gan ei bod yn cymryd mwy o amser i rai pobl nag eraill i feithrin ymddiriedaeth a hyder i'r pwynt lle maen nhw'n barod i fod yn rhan o grŵp cymunedol gyda phobl eraill. Mae hefyd yn amlwg bod angen mwy o gefnogaeth a gwybodaeth ar gyfer y gofalwr a'r sawl sy'n derbyn gofal.

 


"Look, she’s smiling now that PSU are here"

"One thing I do know is how much my mother values your visits"
"My mother loved your visits; she would be very interested in continuing"
"Your visits have been very special"


ffotos


Mwy:

Eleanor Shaw

Sylfaenydd/Cyfarwyddydd Artistig a Busnes
Founder/Artistic & Business Director

Tel: 07972651920