Derbyniodd People Speak Up arian i sefydlu gardd gymunedol yn y Ffwrnes Fach yng nghanol tref Llanelli. Hyd yma mae hyn wedi'i redeg gan y tîm staff a gwirfoddolwyr.
Mae'r ardd yn ardd lles, yn tyfu perlysiau, ffrwythau a llysiau a blodau brodorol i annog pryfed peillio i'r ardal drefol hon.
Mae'n noddfa i bobl o bob oed, cefndir a phrofiad bywyd i'w mwynhau, yn arddwyr newydd neu brofiadol sydd am gael eu dwylo'n frwnt, neu'n bobl sy'n chwilio am le heddychlon i ymlacio, ysgrifennu, tynnu llun a chefnogi eu hiechyd meddwl a'u lles.
Cerys yw’r Cydlynydd Gwirfoddolwyr A’r Ardd Gymunedol newydd.
Bydd Cerys yn helpu ein gardd i dyfu a hefyd yn gofalu am ein gwirfoddolwyr.
Ydych chi'n gyrru ac a fyddech diddordeb gyda chi i’n cefnogi yn y gymuned? Ni’n chwilio am wirfoddolwyr gyrru i helpu dod â phobl i’n sesiynau. Cysylltwch â ni a gofynnwch am fwy o fanylion:
info@peoplespeakup.co.uk
01554 292393