Yn 2022, fe wnaethon ni lansio prosiect newydd o'r enw Hwb Celf, wedi'i gynllunio i wella iechyd meddwl, a lleihau teimladau o bryder trwy ymgysylltu â'r celfyddydau.
Mae'r prosiect ar gyfer plant a phobl ifanc yng ngorllewin Cymru sy'n hysbys i'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed Arbenigol (GIMAPhA).
Mae'n brosiect ar y cyd rhwng ein gwasanaeth GIMAPhA, tîm celfyddydau ac iechyd, a thri phartneriaid celfyddydol. Ewch i'w gwefannau isod i gael gwybod mwy:
• Span Arts yn Sir Benfro
• People Speak Up yn Sir Gaerfyrddin
• Small World Theatre yng Ngheredigion
Mae Hwb Celf yn rhan o raglen genedlaethol celfyddydau a meddwl, yn cefnogi byrddau iechyd ledled Cymru i wella iechyd meddwl. Mae'n cael ei ariannu gan Sefydliad Baring a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Datblygwyd Hwb Celf oherwydd y cynnydd mewn anawsterau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, a'r niferoedd cynyddol sy'n ceisio cefnogaeth ar gyfer eu hiechyd meddwl.
Mae tystiolaeth gynyddol yn dangos bod gan y celfyddydau rôl bwerus i'w chwarae mewn gwella lles a lleihau teimladau o drallod. Mae hefyd yn darparu mynediad at fwy o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau ymdopi creadigol ar gyfer bywyd.
Ni’n gweithio gyda phartneriaid celfyddydol i gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau creadigol amrywiol dan arweiniad artistiaid o'r enw 'Freestyling Creadigol'.
Mae adborth gwerthfawr gan bobl ifanc sydd eisoes wedi elwa o'r prosiect wedi cael ei ddefnyddio i'n helpu ni wrth symud ymlaen.
Ni’n gwybod bod ymgysylltu â gweithgareddau creadigol dan arweiniad artistiaid wedi helpu plant a phobl ifanc i:
• wella lles a lleihau teimladau o bryder;
• datblygu sgiliau ymdopi creadigol ar gyfer bywyd;
• creu lle diogel i ganiatáu i adferiad ddechrau;
• hyrwyddo gwydnwch a sgiliau ymdopi a chynyddu ymdeimlad o rymuso.
Mae'r bobl ifanc wedi dweud wrthym:
• "Dysgais i ryddhau tensiwn."
• "Dyma sut rwy'n dangos fy meddyliau a'm teimladau."
• "Celf yw'r unig ffordd rwy'n mynegi rhai o'm hanawsterau."
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am hwb celfyddydau neu'r broses atgyfeirio, anfonwch e-bost at:
Hwb celfyddydau: ArtsandHealth.HDD@wales.nhs.uk
Atgyfeiriadau ar gyfer hwb celfyddydau: PsychologicalTherapies-SCAMHS.HDD@wales.nhs.uk