Cysylltwch


info@peoplespeakup.co.uk

07972 651920

Ffwrnes Fach (Hen Gapel Seion), Theatr Ffwrnes, Llanelli. SA15 3YE

Mae Ffwrnes Fach yng nghanol tre Llanelli ac mae o fewn pellter cerdded i dri maes parcio, gorsaf fysus y dre ac mae’n daith cerdded rhyw 15 munud o’r orsaf drenau. Ni yw’r ail gapel drws nesa i Theatr Ffwrnea. Isod, mae gwybodaeth pellach ar sut i gyrraedd Ffwrnes.

Car

O’r Dwyrain: O’r M4 dilynwch y A4138 tuag at Ganol Tre Llanelli. Wrth gylchfan Trostre, cymrwch y 5ed allanfa i’r A484, wrth y gyclhfan nesa cymrwch yr allanfa gynta, i aros ar yr A 484. Wrth gyrraedd y gylcjfan nesa, byddwch yn gweld Travelodge o’ch blaen, cymrwch y 3ydd allanfa i Faes Parcio East Gate. Os ydych yn defnyddio SatNav, defnyddiwch SA15 3YF a bydd hyn yn mynd a chi’n syth i Faes Parcio East Gate.

O Gaerfyrddin (Gorllewin): O Gaerfyrddin dilynwch yr A484 tuag at Lanelli. Wrth gyrraedd canol tre Llanelli cadwch i’r chwith ar oleuadau Gelli Onn (wedi pasio Eglwys Hall Street) yna cymrwch y lôn ar y dde. Trowch i’r dde ar y goleuadau ar ben y rhiw. Rydych nawr yn Thomas Street, y tu ôl i Theatr Ffwrnes. Wrth y gylchfan, cymrwch y 4ydd allanfa i Faes Parcio East Gate.

Parcio:

Cyfnod Byr – mae maes Parcio arhosiadau byr yn East Gate rhwng 8 a 6, Llun i Sadwrn. Bydd angen talu. Does dim modd aros am fyw na phedair awr. £2.00 yw’r tâl am hynny. Mae parcio am ddim dros nos rhwng 6 ac 8, a thrwy’r dydd ar y Sadwrn.

Cyfnod hir – Mae dau faes parcio arhosiadau hir o fewn i 500 llath i’r Ffwrnes.

Maes Parcio Stryd Edgar, ger Meddygfa Hen Heol. SA15 3HW

Maes Parcio Stryd yr Eglwys, ger Meddygfa Vauxhall. Dim ond nifer cyfyngedig o fannau parcio arhosiad hir sydd fan hyn. SA15 3BD

Am wybodaeth mwya diweddar am y meysydd parcio yma, ewch at dudalen parcio’r Cyngor arlein, neu cliciwch fan hyn: (http://www.carmarthenshire.gov.wales/home/residents/travel-roads-parking/parking/car-park-charges/)

Cyrraedd trwy fws

Mae prif orsaf bysys Llanelli wrth ymyl Ffwrnes. Mae National Express yn gweithredu yn Llanelli ac mae digon o fysys lleol.

Am wybodaeth teithio, cysylltwch â

First Cymru Group: www.firstgroup.com or call 01792 512255 neu galwch 01792 512255

Cyrraedd trwy dren:

Mae First Great Western a Trrafnidiaeth Cymru yn cynnig gwasanaethau cyson i Lanelli

Am wybodaeth rheilffyrdd, cysylltwch â National Rail Enquiries ar  08457 484950

www.gwr.com | www.networkrail.co.uk | www.arrivatrainswales.co.uk