Clywch Ni

Clywch Ni

Prosiect dan arweiniad pobl Fyddar gan Jonny Cotsen, mewn partneriaeth â Chanolfan Gelfyddydau Chapter, yw Clywch Ni. Mae’n archwilio safbwyntiau pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw sy’n gweithio yn y celfyddydau, a sut maen nhw’n cael cefnogaeth a mynediad at gynhyrchu creadigol. Nod y rhaglen yw ail-ddychmygu perthnasau yn sector y celfyddydau, gan osod pobl Byddar a Thrwm eu Clyw yn ganolog i gynhyrchu diwylliannol.

Yn ystod Cam Un, bu’r Mentor Creadigol Byddar, Cheryl Beer, yn gweithio gyda naw person Byddar creadigol o bob rhan o Gymru gan gofnodi straeon eu bywydau, cynnal sgyrsiau, a deall sut mae Byddardod wedi effeithio ar eu gyrfaoedd ym myd y celfyddydau. Bu hefyd yn archwilio dyheadau creadigol artistiaid Byddar a’u gobeithion am ddyfodol mwy teg.

Roedd yn brofiad teimladwy cael clywed straeon bywydau pobl greadigol Byddar eraill, yr heriau maen nhw wedi’u goresgyn, y ffyrdd mae’r celfyddydau a chreadigrwydd wedi, mewn llawer o ffyrdd, bod yn achubiaeth, ond yn bennaf, fe ges i fy ysbrydoli gan y cyfraniadau anhygoel mae pobl greadigol Fyddar yn eu gwneud, nid yn unig i gymuned y celfyddydau, ond er budd pawb.

Deaf Creative Mentor, Cheryl Beer

Ariennir y prosiect yma gan gronfa Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru, a’i arwain gan Ganolfan Celfyddydau Chapter.

hearweare@chapter.org

Ceredwin Jacques
Maggie Hampton
Marlene A. Butt
Mel Perry
Ruth Fabby MBE
Wish
Heather Fish
Irene Law
Stephanie Simms