Llwybrau Chwedleua Gwrth-hiliaeth yn cyhoeddi’r tîm o weithwyr llawrydd fydd yn casglu storïau sydd heb eu clywed ac yn newid arferion chwedleua yng Nghymru.
https://beyondtheborder.com/anti-racism-storytelling-pathways/
Bydd Bevin Magama, Duke Al Durham, Phil Okwedy, Ayisha De Lanerolle a Jafar Iqbal yn rhan o dîm newydd Llwybrau Chwedleua Gwrth-hiliaeth – rhaglen newydd ddwy flynedd, fydd yn sicrhau bod storïau a lleisiau sydd heb eu clywed o bob rhan o Gymru’n cael eu cynrychioli ac ymwreiddio ymarfer chwedleua gwrth-hiliaeth ar draws Cymru.
Mae’r prosiect a gyflwynir Cyflwynir y prosiect rhwng Beyond the Border - Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru a People Speak Up, dau sefydliad sydd â hanes cadarn o gryfhau ac arddangos storïau amrywiol cymunedau yn Ne Orllewin Cymru a ledled y wlad, trwy’r Hwb Chwedleua Myseliwm. Llwyddodd y partneriaid i ddatblygu'r prosiect hwn o gyllid o Gronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Gwrth-hiliaeth.
Bydd y Cyfarwyddion Cyfoes a’r Cynhyrchydd yn creu gweithgareddau gyda chymunedau ac yn datblygu rhaglenni diwylliannol wedi eu creu ar y cyd, sy’n dathlu’r storïau cyfoethog ac amrywiol o’n treftadaeth gyffredin. Bydd y rhaglen yn cael ei chefnogi gan bartneriaid sefydliadol gan annog hyfforddiant gwrth-hiliaeth ar ffurf celfyddyd a chynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth sefydliadol, gan weithio’n weithredol a chadarn i weithredu yn erbyn hiliaeth.
“Mae hwn yn amser cyffrous i fod yn datgelu a chysylltu storïau newydd mewn Cymru sydd yn ymroddedig i weledigaeth eang o’n dyfodol. Rwy’n edrych ymlaen at helpu’r tîm gwych o weithwyr creadigol i wireddu eu syniadau a chefnogi’r sefydliadau sy’n cydweithio ar eu taith wrth-hiliaeth.” Rheolwr Prosiect Llwybrau Chwedleua Gwrth-hiliaeth, Ayisha De Lanerolle
Penodwyd Bevin Magama a Duke Al Durham yn Gyfarwyddion Cyfoes a fydd yn dadlennu storïau a lleisiau yng Nghasnewydd a Rhondda Cynon Taf. Byddant yn ymuno â Phil Okwedy sy’n parhau yn ei swydd Cyfarwydd Cyfoes, y mae wedi bod yn ei llunio dros y flwyddyn ddiwethaf gyda People Speak Up ar draws de orllewin Cymru.
Chwedleuwr proffesiynol ac awdur a aned yn Zimbabwe yw Bevin Magama sy’n byw yng Nghasnewydd ac mae wedi gweithio ar Raglen Greadigol Arweiniol Cyngor Celfyddydau Cymru fel Ymarferwr Creadigol ac Asiant Creadigol. Mae Bevin wedi cydweithio hefyd gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru, fel cyfarwyddwr artistig a chwedleuwr, i gynhyrchu perfformiadau a mynegiant artistig i ffoaduriaid.
Dywedodd Bevin: “Mae bod yn Gyfarwydd Cyfoes yn gwireddu breuddwyd, cyfle i fod y cyfrwng sy’n defnyddio chwedleua i ysbrydoli cymunedau i fyw mewn harmoni gyda’i gilydd beth bynnag fo eu lliw neu hil. Fy ngweledigaeth i yw gweld Cymru’n carlamu tuag at y llinell derfyn a chodi’r tlws fel y genedl yn y Deyrnas Unedig sy’n esiampl i bawb o ran gwrth-hiliaeth.”
Mae Duke Al Durham yn fardd cyhoeddedig, artist gair ar lafar, rapiwr, a hwylusydd sy’n byw yng Nghaerdydd. Fo yw awdur ‘Bittersweet: The Highs, The Lows, Hypers and Hypos of Living with Type 1 Diabetes’. Cyhoeddodd waith hefyd gyda BBC Wales ar gyfer Cwpan y Byd yn 2022, ‘Sport in Words’ BT Sports ar gyfer Mis Hanes Pobl Ddu am Syr Lewis Hamilton, Anthology 8 Met Caerdydd, cylchgrawn Artes Mundi, ar Amazon a Scrum V y BBC ar gyfer y Chwe Gwlad yn 2022.
Dywedodd Duke Al Durham, “Rwyf mor ddiolchgar o fod yn rhan o brosiect mor ystyrlon. Mae swyddogaeth y chwedleuwr yn rhoi cyfle i mi archwilio a rhannu storïau grymus pobl eraill. Rwyf am weithio gyda’r Gwasanaeth Cyswllt Alcohol yn Rhondda Cynon Taf a siarad â defnyddwyr y gwasanaeth. Rwyf am roi llais i ddefnyddwyr y gwasanaeth a chyfle i rannu eu storïau. Wedyn rwyf yn gobeithio ysgrifennu drama gair ar lafar sy’n tacluso’r sgyrsiau craidd y byddwn yn eu cael. Fy nod yw chwalu stigma alcoholiaeth ac iechyd meddwl. Mae gan bawb stori i’w dweud, mae gan bawb rywbeth i’w ddweud, mae pobl wedi bod yn rhannu storïau ers canrifoedd, maent yn ddull o fynegiant, deall ein gilydd ac maent yn ein dwyn yn nes at ein gilydd.”
Roedd Phil Okwedy a’r chwedleuwr o Sir Benfro yn un o’r artistiaid ‘Cyfeiriadau Newydd’ yng Ngŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru, Beyond the Border yn 2021. Roedd yn chwedleuwr wedi ei gomisiynu ym mhrosiect Go Tell the Bees Theatr Genedlaethol Cymru ac mae ar hyn o bryd yn ysgrifennu llyfr ar sail ei Daith chwedleua ddiweddar yng Nghymru, The Gods Are All Here a gynhyrchwyd gan Adverse Camber ac oedd yn rhan oraglen Cynrychioli Cymru, Datblygu Awduron o Liw Llenyddiaeth Cymru. Mae llyfr cyntaf Phil, Wil & the Welsh Black Cattle yn gasgliad gwych o lên gwerin Cymru wedi eu plethu at ei gilydd a’u fframio o gwmpas chwedlau hen borthmyn y gorffennol. Mae Phil hefyd yn darparu’r gwasanaeth ‘storïau ar bresgripsiwn’ iechyd a chelfyddydau i People Speak Up.
Dywedodd Phil, “Gan adeiladu ar y gwaith a ddechreuwyd fel cymuned gyda People Speak Up, rwyf wedi cyffroi o weld sut y bydd y rôl hon yn datblygu wrth ymateb i weithio gyda chymunedau amrywiol. Rwyf wrth fy modd o gael y cyfle i gefnogi, datblygu a grymuso lleisiau sy’n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd a heb eu clywed yn aml. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen yn eiddgar am gael gweithio’n rhan o dîm mor ysbrydoledig.”
Yn gweithio gyda’r Cyfarwyddion Cyfoes bydd y cynhyrchydd, Jafar Iqbal sydd wedi gweithio yn y sector celfyddydau ers dros ddau ddegawd. Yn ddiweddar roedd yn Gynhyrchydd Cyfranogiad ar GALWAD, y digwyddiad traws-gyfryngol epig a wnaed gyda National Theatre Wales a Sky Arts. Mae hefyd yn sylfaenydd Scene/Change, y cynllun ysgrifennu dramâu cyntaf erioed ar gyfer artistiaid o Gymru sydd â threftadaeth De Asia. Fel gohebydd celfyddydol, mae Jafar wedi sôn yn angerddol am broblemau systematig yn y sector; ac fe sylfaenodd a chyflwyno’r podlediad Critically Speaking, lle’r oedd yn siarad gyda chwech o’r arweinwyr celfyddydol mwyaf yng Nghymru am hiliaeth systematig a braint pobl wyn yn eu sefydliadau.
“Mae cael y cyfle i gynhyrchu gwaith gyda chwedleuwr cyffrous o’r Mwyafrif Byd-eang yn fraint anferth, ac alla'i ddim aros am gael cychwyn arni. Rwy’n deall pwysigrwydd y swyddogaeth, ac mae’n parhau fy ymrwymiad i weithio gyda chymunedau sydd wedi eu hallgau yn hanesyddol a rhoi llwyfan i’w storïau gael eu dweud. Rwy’n edrych ymlaen at yr effaith y bydd y swydd hon yn ei gael wrth greu Cymru wrth-hiliaeth.” Jafar Iqbal.
“Mae hwn yn brosiect mor gyffrous, mae dim ond gweithio gyda’r panel ymgynghorol hyd yn hyn wedi bod yn addysgiadol, mae wedi agor eu proses recriwtio ar gyfer People Speak Up a Beyond the Border. Ymlaen â ni i’r ddau dîm a’r tîm newydd o weithwyr creadigol. Er mwyn i ni allu parhau i ddatblygu ein gwasanaethau chwedleua, gan greu llwyfannau amrywiol pellach i leisiau gael eu clywed - er mwyn i ni allu rhannu, gwrando a dysgu.” Eleanor Shaw, People Speak Up.
Am ragor o wybodaeth am Lwybrau Chwedleua Gwrth-hiliaeth ewch i: www.beyondtheborder.com a www.peoplespeakup.co.uk
DIWEDD
Am ragor o wybodaeth, cyfweliadau a delweddau cysylltwch â Suzanne Carter, Ymgynghorydd Marchnata ar 07885977044/ suzannecarter@beyondtheborder.com
Bywgraffiadau
Cyfarwydd Cyfoes (Chwedleuwr) - Bevin Magama
Dyfyniad
Mae bod yn Gyfarwydd Cyfoes yn gwireddu breuddwyd, cyfle i fod y cyfrwng sy’n defnyddio chwedleua i ysbrydoli cymunedau i fyw mewn harmoni gyda’i gilydd beth bynnag fo eu lliw neu hil. Fy ngweledigaeth i yw gweld Cymru’n carlamu tuag at y llinell derfyn a chodi’r tlws fel y genedl yn y Deyrnas Unedig sy’n esiampl i bawb o ran gwrth-hiliaeth.”
Chwedleuwr proffesiynol ac awdur a aned yn Zimbabwe yw Bevin Magama sy’n byw yng Nghasnewydd. Mae wedi gweithio ar Raglen Greadigol Arweiniol Cyngor Celfyddydau Cymru fel Ymarferwr Creadigol ac Asiant Creadigol ers blynyddoedd lawer. Mae Bevin wedi cydweithio hefyd gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru, fel cyfarwyddwr artistig a chwedleuwr, i gynhyrchu perfformiadau a mynegiant artistig i ffoaduriaid.
Roedd Bevin yn ddarllenwr yng nghynyrchiadau National Theatre Wales o City of the Unexpected Roald Dahl, yn 2016, a hefyd fel prif actor yn Bordergame, a dderbyniodd bedair seren gan y Financial Times.
Mae Bevin wedi cael ei wahodd i chwedleua mewn nifer o wyliau chwedleua rhyngwladol pwysig. Ymhlith y rhain mae Sting In The Tale, Dorset, 2014, Chwedleua er lles Iechyd, Abertawe 2017, Gŵyl Platforma, Newcastle, 2017, Chwedleua Rhyngwladol Johannesburg, 2013, Gŵyl Gelfyddydol Harare, 2018, Gŵyl Who are We y Tate Modern, Llundain, 2018 a’r Ŵyl Lyfrau a Chwedleua Nozincwadi, Durban De Affrica 2020.
Daeth Bevin i’r Deyrnas Unedig fel ffoadur yn 2001. Cyhoeddodd erthyglau yn Forbes Africa Magazine, Rhifyn Mai 2014 Erthygl dan y teitl, A plane Ride to Hell, td 78. Erthygl dan y teitl, Through Mayhem and Tear Gas, Rhifyn Awst 2014, td 76. Ymhlith y llyfrau y mae wedi eu cyhoeddi mae Dreaming All Things Great, Vicious, Gross Misconduct, One Dead Zimbo Walking, a Harare Is Sick.
Cyfarwydd Cyfoes (Chwedleuwr) - Duke Al Durham
“Rwyf mor ddiolchgar o fod yn rhan o brosiect mor ystyrlon. Mae swyddogaeth y chwedleuwr yn rhoi cyfle i mi archwilio a rhannu storïau grymus pobl eraill. Rwyf am weithio gyda’r Gwasanaeth Cyswllt Alcohol yn Rhondda Cynon Taf a siarad â defnyddwyr y gwasanaeth. Rwyf am roi llais i ddefnyddwyr y gwasanaeth a chyfle i rannu eu storïau. Wedyn rwyf yn gobeithio ysgrifennu drama gair ar lafar sy’n tacluso’r sgyrsiau craidd y byddwn yn eu cael. Fy nod yw chwalu stigma alcoholiaeth ac iechyd meddwl. Mae gan bawb stori i’w dweud, mae gan bawb rywbeth i’w ddweud, mae pobl wedi bod yn rhannu storïau ers canrifoedd, maent yn ddull o fynegiant, deall ein gilydd ac maent yn ein dwyn yn nes at ein gilydd.”
Mae Duke Al yn fardd cyhoeddedig, artist gair ar lafar, rapiwr, a hwylusydd. Ar hyn o bryd mae’n dilyn cwrs Meistr Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Ysgrifennu odlau yw therapi Duke Al. Ers yn ifanc iawn byddai Duke Al yn ysgrifennu rapiau a cherddi yn ei hen lyfr caneuon.
Dyna ei ffordd o fynegi ei hun; dull o ddianc a herio ei OCD.
Ffynnodd ei angerdd am eiriau, llif ac odl. Ar ôl cael diagnosis o ddiabetes math 1 yn 23 oed, roedd ei feiro wrth law i’w helpu i ddeall a mynegi sut yr oedd yn teimlo.
Erbyn hyn mae’n anelu at greu newid gan ddefnyddio un pennill ar y tro.
Fo yw awdur ‘Bittersweet: The Highs, The Lows, Hypers and
Hypos of Living with Type 1 Diabetes’. Gallwch ddod o hyd i waith cyhoeddedig diweddar Duke Al ar BBC Wales ar gyfer Cwpan y Byd yn 2022, ‘Sport in Words’ BT Sports ar gyfer Mis Hanes Pobl Ddu am Syr Lewis Hamilton, Anthology 8 Met Caerdydd, cylchgrawn Artes Mundi, ar Amazon a Scrum V y BBC ar gyfer y Chwe Gwlad yn 2022.
Cyfarwydd Cyfoes (Chwedleuwr) Phil Okwedy
Roedd yr awdur a’r chwedleuwr o Sir Benfro yn un o’r artistiaid ‘Cyfeiriadau Newydd’ yng Ngŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru, Beyond the Border yn 2021. Roedd yn chwedleuwr wedi ei gomisiynu ym mhrosiect Go Tell the Bees Theatr Genedlaethol Cymru ac mae ar hyn o bryd yn ysgrifennu llyfr ar sail The Gods Are All Here fel rhan o raglen Cynrychioli Cymru, Datblygu Awduron o Liw Llenyddiaeth Cymru. Mae llyfr cyntaf Phil, Wil & the Welsh Black Cattle yn gasgliad gwych o lên gwerin Cymru wedi eu plethu at ei gilydd a’u fframio o gwmpas chwedlau hen borthmyn y gorffennol.
Cynhyrchydd - Jafar Iqbal
“Mae cael y cyfle i gynhyrchu gwaith gyda chwedleuwr cyffrous o’r Mwyafrif Byd-eang yn fraint anferth, ac alla'i ddim aros am gael cychwyn arni. Rwy’n deall pwysigrwydd y swyddogaeth, ac mae’n parhau fy ymrwymiad i weithio gyda chymunedau sydd wedi eu hallgau yn hanesyddol a rhoi llwyfan i’w storïau gael eu dweud. Rwy’n edrych ymlaen at yr effaith y bydd y swydd hon yn ei gael wrth greu Cymru wrth-hiliaeth.”
Mae Jafar yn weithiwr creadigol o gefndir De Asia, sy’n gweithio o Gaerdydd, gan weithio yn y theatr yn bennaf. Bu ganddo nifer o swyddi dros bron i ddau ddegawd yn y sector celfyddydol, ac mae wedi bod yn gweithio fel cynhyrchydd am y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn ddiweddar roedd yn Gynhyrchydd Cyfranogiad ar GALWAD, y digwyddiad traws-gyfryngol epig a wnaed gyda National Theatre Wales a Sky Arts. Mae hefyd yn sylfaenydd Scene/Change, y cynllun ysgrifennu dramâu cyntaf erioed ar gyfer artistiaid o Gymru sydd â threftadaeth De Asia. Fel gohebydd celfyddydol, mae Jafar wedi sôn yn angerddol am broblemau systematig yn y sector; ac fe sylfaenodd a chyflwyno’r podlediad Critically Speaking, lle’r oedd yn siarad gyda chwech o’r arweinwyr celfyddydol mwyaf yng Nghymru am hiliaeth systematig a braint pobl wyn yn eu sefydliadau. Roedd Jafar yn rhan o raglen Bridge the Gap Stage One i gynhyrchwyr masnachol newydd o gymunedau lleiafrifol, a derbyniodd Fwrsariaeth Stage One yn 2022.
|
Rheolwr Prosiect - Ayisha De Lanerolle
Mae Ayisha De Lanerolle wedi bod yn cyd-greu a chyflawni rhaglenni celfyddydol a diwylliannol ar draws y Deyrnas Unedig am yr 20 mlynedd diwethaf. Fel menyw o dreftadaeth gymysg mae’n gwirioni ar yr hyn sy’n rhoi ymdeimlad o berthyn a chartref i ni, felly yn 2005 sefydlodd The Conversation Agency i ganolbwyntio ar sgwrsio fel offeryn i lunio cysylltiadau a chymuned. Gan ddefnyddio amrywiaeth o brosesau cyfranogol, cydweithredol a democrataidd i danio chwilfrydedd am ein gilydd a chroesawu’r gwahaniaethau rhyngom. Dros y blynyddoedd mae wedi gweithio gydag amrywiaeth o wahanol sefydliadau celfyddydol ac addysgol a hefyd wedi dal preswylfeydd tymor hir yn y Turner Contemporary Margate, Gwobr Turner 2019, a Mansions of the Future, Lincoln.
Yn ddiweddar, edefyn newydd yn ei gwaith yw rhoi’r corff yn ôl yn y sgwrs. Mae’n archwilio sut i roi’r adnoddau i bobl mewn adegau ansicr ac o wrthdaro, yn arbennig o gwmpas cwestiynau am sut i brosesu trawma a beth mae’n ei olygu i ddatgoloneiddio sefydliadau.
Dywedodd Ayisha, “Mae hwn yn amser cyffrous i fod yn datgelu a chysylltu storïau newydd mewn Cymru sydd yn ymroddedig i weledigaeth eang o’n dyfodol. Rwy’n edrych ymlaen at helpu’r tîm gwych o weithwyr creadigol i wireddu eu syniadau a chefnogi’r sefydliadau sy’n cydweithio ar eu taith wrth-hiliaeth.”
Am Ŵyl Chwedleua Ryngwladol Beyond the Border
“A Festival like no other!” The Times
Beyond the Border yw Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru – sy’n dod â straeon a phobl ynghyd o Gymru a’r Byd drwy ŵyl ysbrydoledig a gynhelir bob dwy flynedd a phrosiectau sy’n dyfnhau cysylltiad drwy rym straeon.
Mae’r ŵyl yn un o brif wyliau chwedleua Prydain ac mae’n dangos y chwedleua gorau o bob rhan o’r byd ac yn denu ymwelwyr o bob oed o bob rhan o Brydain a thramor.
Yn ogystal â phenwythnos yr Ŵyl ei hun, mae BtB hefyd yn hyrwyddo rhaglen drwy’r flwyddyn o ddigwyddiadau perfformiad chwedleua, yn ogystal ag ystod eang o brosiectau arloeso addysg a maes.
Mae Beyond the Border hefyd yn aelod ac yn cyfrannu at FEST, Ffederasiwn Chwedleua Ewrop.
Mae Beyond the Border yn cyllido ei weithgareddau drwy gyfuniad o werthu tocynnau,
cyfraniadau gan unigolion, Ymddiriedolaethau a Sefydliadau a chefnogwyr masnachol a chyllid o’r sector cyhoeddus, yn bennaf Gyngor Celfyddydau Cymru ac Uned Digwyddiadau Mawr Llywodraeth Cymru
People Speak Up
Mae People Speak Up yn elusen gymdeithasol, gelfyddydol, iechyd, iechyd meddwl a llesiant sy’n cysylltu pobl a chreu cymunedau iachach a mwy gwydn. Wedi ei seilio yn ‘Ffwrnes Fach’, canolfan Gelfyddydol, iechyd a llesiant Llanelli sydd newydd ei datblygu
Trwy chwedleua, gair ar lafar, ysgrifennu creadigol, sgyrsiau, gwirfoddoli, hyfforddiant, celfyddydau gweledol, a chelfyddydau cyfranogol - rydym yn helpu pobl i ddod o hyd i’w llais!
Rydym yn datblygu prosiectau celfyddydol ac iechyd arloesol sy’n arwain y ffordd trwy ddefnyddio chwedleua i helpu pobl i deimlo’n fyw eto – gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Abertawe a Bwrdd Iechyd Hywel Dda.