People Speak Up Ifanc

People Speak Up Ifanc

Ffwrnes Fach, Llanelli
Oed 11+

Am ddim

Dydd Mawrth - 'Galw Heibio' Llesiant Creadigol 4pm – 6pm

Dydd Mercher - 'Gwna fe!' Lles Creadigol - 4pm – 6pm

People Speak Up, Stryd Parc, Llanelli.

 

 

Mae PSU Ifanc (YPSU yn fyr!) yn lle i bobl ifanc gwrdd, dod o hyd i'w hunain a chodi eu lleisiau. Mae'n lle i gwrdd â ffrindiau newydd, i archwilio'r hyn chi'n ei garu, a rhoi cynnig ar rywbeth cwbl wahanol.

Mae galw heibio prynhawn dydd Mawrth yn cael ei arwain yn llwyr gennych chi! Eisiau treulio amser yn yr ystafell dechnoleg gyda'r cyfrifiadur gemau neu VR? Gwych! Angen help gyda'ch gwaith cartref neu stori neu ddarn o gelf rydych chi'n gweithio arno? Dim problem. Eisiau rhywle cyfforddus i dreulio ychydig oriau ar ôl ysgol? Anhygoel. Beth bynnag chi am ei wneud, ni yma ar ei gyfer.

Mae sesiynau dydd Mercher yn weithdai sy’n cael eu cynnal gan ein hwyluso creadigol mewnol neu westeion proffesiynol! Gallai un wythnos fod yn weithdy cerddoriaeth sy'n eich dysgu sut i chwarae'r gitâr drydan, gallai wythnos arall fod yn sesiwn meddwlgarwch celf, a'r nesaf gallai fod yn awdur o fri rhyngwladol yn rhoi awgrymiadau i chi ar eich barddoniaeth. Mae bob amser yn rhywbeth gwahanol, wedi'i gynllunio i wella'ch sgiliau, meithrin bondiau gyda'ch cyfoedion, ac yn bwysicaf oll cael hwyl.

Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael! Gofynnwch i'n tîm neu anfonwch e-bost.