Mae Pnawn Arty yn grŵp celf am ddim i unrhyw un o gwbl. Does dim angen profiad celf blaenorol - bydd ein hwyluso creadigol a'n hartistiaid gwadd yn eich tywys trwy ba dasgau bynnag sy'n digwydd yn y sesiwn ac mae'r holl ddeunyddiau'n cael eu darparu.
Nod Prynhawniau Celfyddydol yw gwella'ch lles trwy'r celfyddydau, datblygu'ch arddull gelf a magu hyder a chefnogaeth gan ein cymuned.
Os ydych chi'n artist gydol oes neu'n gwbl newydd, newch chi weld rhywbeth difyr i'w wneud yma. Does dim pwysau i ymuno â gweithgaredd dydy’ch chi o bosib ddim yn ei fwynhau, mae llawer o aelodau grŵp yn treulio'r ychydig wythnosau cyntaf yn arsylwi ac yn dod i adnabod pobl dros baned o de.
Mae gennym sesiynau gydag artistiaid gwadd yn amrywio o seramegwyr, arlunwyr, artistiaid llyfrau comig, darlunwyr, ymarferydd meddwlgarwch, storïwyr a mwy. Mae gennym hefyd ein sesiynau 'arddull rhydd' lle gallwch naill ai ymuno ag awgrym ein staff neu barhau â phrosiect artistig eich hun!
Amserlen
5 & 12 Tachwedd 2024 |
Valerie Ayres |
7 Ionawr 2025 |
Bill Taylor-Beales |
14 Ionawr 2025 |
Valerie Ayres |
11 Chwefror 2025 |
Bill Taylor-Beales |
|