14+
Mae Sadwrn Siarad y Gair ar Lafar yn lle diogel i rannu eich lleisiau a’ch storïau. Boed yn atgofion am deulu neu hanes lleol, profiadau bywyd personol, neu eich bod wedi llunio stori, cerdd neu gân y byddech yn hoffi profi eich sgiliau ysgrifennu creadigol gydag eraill, gallwch rannu eich geiriau a’ch lleisiau yn ein slotiau agored 5 munud.
Disgwyliwch brynhawn o glywed lleisiau lleol yn cael eu harwain gan y chwedleuwyr lleol, Ceri J Phillips a David Pitt. Wyddoch chi ddim, fe allwch ddarganfod stori leol ddiddorol neu ddwy neu rywbeth diddorol am eich cymuned.
Os hoffech chi gael slot Agored 5 munud, rhaid archebu’r rhain ymlaen llaw i’w sicrhau. Cysylltwch â:
info@peoplespeakup.co.uk
01554 292393
Rydym yn falch iawn o gael y bardd a’r awdur Christina Thatcher yn y Sadwrn Llafar.
Tyfodd Christina rhwng fferm a thŷ ransh yn Bucks County, Pennsylvania. Enillodd Ysgoloriaeth Marshall i ddilyn dau gwrs MA yn y Deyrnas Unedig, ac yna cwblhaodd PhD mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae’n ddarlithydd
yn awr. Cyhoeddwyd ei barddoniaeth a’i storïau byrion yn eang mewn cylchgronau llenyddol, gan gynnwys Ambit, Butcher’s Dog, Magma, Poetry Wales, The North, The Poetry Review a mwy. Cyhoeddodd ddwy flodeugerdd gyda Parthian Books: More than you were (2017) a How to Carry Fire (2020). Teithiodd Christina yn rhyngwladol, gan ddarllen ei gwaith yn y Deyrnas Unedig, UDA, Canada, Costa Rica, Y Swistir a Rwmania. christinathatcher.com / @writetoempower.
Bydd Christina yn rhannu geiriau a cherddi ac yn trafod ei gwaith diweddar Breaking a Mare sy’n ymchwilio i dawelwch, daioni a genethdod. Mae’n gwahodd darllenwyr i’r sgubor, y felin llwch lli, y cylch rodeo. Mae’r cerddi yma’n trafod y gwaith caled a wna menywod ar ffermydd, colli tirweddau gwledig a’r rhan y gall marwolaeth ei chwarae yn y mannau hyn. Maent yn gofyn beth mae’n ei olygu i fod yn dda yn wyneb bygythiad corfforol, emosiynol ac ecolegol. Yn y pen draw mae’r cerddi yma eisiau gwybod beth sy’n ein torri ni a beth sy’n ein gwneud yn gryfach.
Y mis Rhagfyr hwn bydd y gantores ac awdur Danny Sioned yn ymuno â ni ar gyfer Sadwrn Llafar Gaeafol. Daw’n wreiddiol o fynyddoedd y Preseli a gallwch ddisgwyl clywed cymysgedd o ganeuon gwerin gwreiddiol a thraddodiadol yn Gymraeg a Saesneg.
Ymunwch â'r gwesteiwyr Ceri John Phillips a David Pitt am brynhawn o rannu straeon, barddoniaeth, ysgrifennu creadigol - i gyd trwy'r Gair Llafar! Gwesteion arbennig a gofod diogel i'n cymuned rannu (5 munud max)
Os hoffech gadw un o’r rhain rhowch wybod i ni. Gofynnwch i chi gadw eich darnau hyd at 5 munud ar y mwyaf, neu yn fyrrach fel y gallwn gael cymaint o rannu a phosibl.
I archebu'ch lle: info@peoplespeakup.co.uk neu ffoniwch 01554 292393