Swyddi a Gwirfoddolwr

 

Galwad am artistiaid gwadd ar draws Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro

 

Ydych chi’n artist, bardd, awdur, artist gair ar lafar neu yn rhywun ag angerdd am gyflwyno gweithgareddau creadigol...

 

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o artistiaid sy’n gweithio gyda’n cymunedau a chyfranogwyr.

 

Rydym yn credu’n wirioneddol yng ngrym creadigrwydd, y celfyddydau, ysgrifennu a chwedleua ac yn gweld yr effaith y mae’n ei gael ar ein cymuned ac ar lesiant iechyd a’r meddwl.

Rydym yn cyflwyno gweithgareddau 6 diwrnod yr wythnos yn ein cartref yng Nghanolfan Iechyd a Llesiant People Speak Up a thri diwrnod yr wythnos yng Nghanolfan Byw’n Dda Sir Gâr. Rydym hefyd yn cyflwyno gweithgareddau un i un i’r rhai sy’n byw mewn unigrwydd gwledig a hefyd mewn cartrefi gofal ac mewn digwyddiadau ledled Gorllewin Cymru.


Mae gennym bob amser ddiddordeb mewn cefnogi ein cymuned leol o artistiaid a rhoi cyfleoedd iddyn nhw gyflwyno eu hangerdd i’n grwpiau cymunedol. Boed yn chwedleuwr, artist gair ar lafar, bardd, awdur, artist gweledol, peintiwr, canwr neu waith creadigol arall yr hoffech chi ei rannu gyda phobl ifanc, oedolion, pobl hŷn, gofalwyr neu’r rhai sy’n cael gofal, cofiwch gysylltu.


Rydym yn awyddus iawn i glywed gan artistiaid nad ydyn nhw’n cael eu cynrychioli’n ddigonol gan gynnwys rhai sy’n uniaethu fel mwyafrif byd-eang, cefndir dosbarth gweithiol, menywod, LGBTC+, pobl anabl a phobl â phrofiad o ofal, y cyfan heb ddigon o gynrychiolaeth ar hyn o bryd.

 e-bost at eshaw@peoplespeakup.co.uk

 

Ryddem yn hoffi cyfarfod mwy o Artistiaid/Hwyluswyr sy’n siarad Cymraeg yng ngorllewin Cymru

 
Byddem yn hoffi cyfarfod mwy o Artistiaid sy’n siarad Cymraeg sydd â diddordeb mewn gweithio gyda ni, a diddordeb mewn defnyddio eu creadigrwydd, barddoniaeth, celf weledol, gair ar lafar, ysgrifennu creadigol neu sgiliau tebyg i helpu i gefnogi ein darpariaeth Gymraeg i’n cymuned leol.
 
Mae PSU yn gweithio o Lanelli a Chaerfyrddin, ac rydym yn defnyddio’r celfyddydau a chreadigrwydd i helpu i gefnogi iechyd meddwl, llesiant a dwyn cymunedau at ei gilydd. Hoffem glywed gan hwyluswyr ac artistiaid nad ydym, efalali, yn gwybod amdanyn nhw ac sy’n siarad Cymraeg yn neilltuol i gefnogi ein gwaith. Cyflwynwch eich hunain ar y ffrwd hon neu anfon e-bost at eshaw@peoplespeakup.co.uk