Canolfan Byw’n Dda Sir Gaerfyrddin
Parc Dewi Sant,
Carmarthen,
SA31 3HB
Rhaglen Caerfyrddin
Canolfan Byw’n Dda Sir Gaerfyrddin ar gau
20 Rhagfyr- 6 Ionawr
P'nawn Arty yng Nghaerfyrddin
Dydd Mercher 1pm-2.30pm
Amser Dishgled yng Nghaerfyrddin
Dydd Iau - 1pm-2.30pm
O’r Dwyrain: O’r M4 ewch am Gaerfyrddin a mynd ar yr A40. Ar ôl mynd heibio B&Q, ewch ar yr A40 a throi i’r chwith ar y B4312 am Lansteffan/Tre Ioan ond cymerwch y B4312 am Sanclêr ar Heol Ffynnon Jôb. Daliwch i fynd trwy’r goleuadau traffig ac fe fyddwch yn dechrau mynd i fyny’r allt. Ychydig cyn Prifysgol Dewi Sant, Caerfyrddin, bydd troad ar y chwith ac arwyddion Parc Dewi Sant.
Wrth i chi fynd trwy giatiau Parc Dewi Sant (peidiwch â throi ar y troad cyntaf i’r chwith i’r ganolfan anadlu’n dda) ewch i fyny’r allt a throi i’r chwith/ gyda’r arwydd Adeilad 1. Dilynwch yr arwyddion i’r Ganolfan Byw’n Dda. Os byddwch yn mynd heibio’r capel, rydych wedi mynd yn rhy bell!
O Sanclêr a Gorllewin Cymru: Dilynwch yr A40 tua Chaerfyrddin. Cyn Caerfyrddin a B&Q, trowch i’r chwith am y B4312 i Lansteffan/Tre Ioan. Dilynwch Ffordd Pendre, ar y gylchfan, cymerwch yr ail allanfa i Ffordd Pendre. Ar y gylchfan nesaf, cymerwch yr allanfa gyntaf ac aros ar Ffordd Pendre. Ar y gylchfan olaf, cymerwch yr allanfa gyntaf ac aros ar Ffordd Pendre. Yna trowch i’r dde ar y ffordd sy’n arwain at Barc Dewi Sant.