Pwy yw Pwy

  • Our Staff

    Eleanor Shaw

    Sylfaenydd a phrif weithredwr

    Rydw i wedi gweithio ym myd addysg a chelf cymunedol am 20 mlynedd. Sylfaenydd a Chyfarwyddydd Artistig People Speak Up; menter celf cymdeithasol a llesiant, wedi ei leoli yn Ffwrnes Fach, Theatr Ffwrmnes, Llanelli. Mae PSU yn cysylltu cymunedau trwy adrodd straeon, y gair llafar, ysgrifennu creadigol a chelf cyfranogol. Fy angerdd yw rhannu fy stori a helpu pobl eraill i rannu eu straeon nhw. 


    Ioan Hefin

    Cyfarwyddydd

    Mae Ioan wedi bod yn actor hunan-gyflogedig ers dros 35 mlynedd. Mae wrth ei fodd i weld y tyfiant ymhlith unigolion a chwmniau creadigol yng Ngorllewin Cymru. ‘Mae People Speak Up ar flaen y gad yn y tyfiant hwnnw a mae nhw wedi gwreiddio ei hunain yn gadarn yn y tirwedd creadigol lleol. Ry’ch chi hefyd yn ca’l y teimlad bod cymaint mwy i ddod – ac ma’ hynny’n ein bywhau heb os.’


    Summar Ackery

    Cyfarwyddydd

    Mae Summar yn gynorthwydd asiantaeth, yn gweithio gyda sawl prosiect yn Sir Gar. ‘Dw i’n gwneud y gwaith yma am fy mod am roi help i’r bobl sydd ei angen fwya. Dw i ar Fwrdd PSU am fy mod yn dwli ar y gweithgaredd cymunedol sydd wedi, ac sy’n dal, i ddod o’r prosiect yma. Dw i’n credu’n gryf bod un rhyw ffordd o fynegu creadigol yn help aruthrol i iechyd pobl o bob oedran a chefndir.’  


    Kate Williams

    Cefnogaeth Busnes a Chodi Arian

    Fe wnaeth Kate hyfforddi i fod yn gerddor. Mae’n chwarae’r clarinet, saxophone a’r piano. Ond erbyn hyn mae’n dueddol o gadw at ddysgu ei hun i chwarae’r ukulele.

    Wedi gweithio yn y celfyddydau am 20 mlynedd, mae Kate wedi symud o gwmps y DU, gan weithio mewn sawl lleoliad fel rhaglennydd a rheolwr masnachol a gwerthiant. Mae wedi cynnal cynllun gwledig teithiol a mae nawr yn Rheolwr Cyffredinol Theatr Na Nog, wedi ei leoli yng Nghastell Nedd.

    http://linkedin.com/in/katemariewilliams


    Carole Ann Smith

    Cyfarwyddydd

    Mae Carole Anne yn ysgrifennu straeon byrion a barddoniaeth, ynghŷd âg erthyglau ar hanes lleol. Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi mewn sawl cylchgrawn llenyddol. Roedd yn un o sylfaenwyr Llanelli Writers Circle ac mae’n ysgrifenyddes y grŵp. Mae’n olygydd yr Amrywiaeth Llanelli Miscellany blynyddol, wedi iddi gael ei phenodi i’r gwaith yn 2011 gan cangen Llanelli o Fudiad Addysg y Gweithwyr (sy’n gysylltiedig â Addysg Oedolion Cymru). Fel ffotograffuyd amatur, mae wrth eu bodd yn cyfuno lluniau a geiriau.

    Mae wedi ymddeol, wedi pum mlynedd ar hugain fel cynorthwydd rhan amser mewn ysgol gynradd. Mae’n weddw, a chanddi mab, merch a chwech o wyrion.

    https://www.linkedin.com/in/carole-ann-smith-33132331


    Mark Montinaro

    Cyfarwyddydd

    (Bu farw Mark yn Awst 2019. Caiff ei gofio am yr holl waith anhygoel a wnaeth trosom ni a Chymuned y gair llafar)

    Cafodd Mark ei hyfforddi fel actor clasurol ac fe wnaeth bron popeth – o’r West End, theatre stryd a chelf perfformiadol. Mae’n byw yn nhalacharn lle mae’n rhannu ei amser rhwng ei ddau brif hoffder – garddio a pherfformio. Mae’n gyfranwr cyson i ddigwyddiadau Gair Llafar Gorllewin Cymru ac yn gefnogwr brwd o amcanion a bwriadau People Speak Up.


    Rufus Mufasa

    Bardd ar Bresgripsiwn

    Mae Rufus yn artist cyfranogol arloesol, actifydd llenyddol, bardd, rapiwr, cantores-gyfansoddwraig, crëwr theatre ac yn ola, ond yn bell o fod y lleia pwysog, mae’n fam. Mae’n Gymrawd Barbican a bardd preswyl cynta Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae hefyd yn gweithio’n rhyngwladol ac wedi cael cyfnodau preswyl yng Ngwyl Llenyddol y Gelli, Sweden, Y Ffindir, Indonesia a Zimbabwe. Yn Hull, roedd yn fardd preswyl '19 artists in conjunction with BBC Contains Strong Language’ gyda Cymdeithas Brydeinig y Gweithwyr Cymdeithasol yn 2020. Mae Rufus wedi magu gwytnwch personnol aruthrol trwy ei chreadigrwydd ac mae’n gweithio gyda’n cymunedau i ddatblygu barddoniaeth fel tonig, er mwyn i iachau fel unigolion ac fel cymuned. 


    Alun Gibbard

    Y Cyfryngau a’r Iaith Gymraeg

    Mae Alun Gibbard yn awdur a darlledwr gwobrwyedig. Mae wedi cyhoeddi 37 o lyfrau ffeithiol-greadigol ac  un nofel. Gweithiodd ym myd darlledu cyn troi at sgrifennu. Wedi ei addysgu yn Llanelli, mae nawr yn byw yng Nghaerdydd. Mae’n angerddol dros yr iaith Gymraeg ac yn anelu at Gymru ddwy-ieithog.


    David Pitt

    Arlunydd Cyswllt

    Mae David Pitt yn arlunydd sain, cerddor, crëwr ac adroddwr straeon sy’n buw yn Abertawe. Ar hyn o bryd mae’n ymarferydd creadigol i Gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol Cyngor Celfyddydau Cymru.

    Linkedin Profile


    Carys Phillips

    Cydlynydd Prosiect YPSU

    Graddiodd Carys o gwrs BA Drama Cymhwysol PCYDDS yn 2019. Tra’n gwneud ei chwrs, dechreuodd wirfoddoli gyda PSU. Roedd hyn wedi cynyddu ei diddordeb mewn defnyddio creadigrwydd ar gyfer llesiant. Dechreuodd weithio gyda PSU wedyn ac ar hyn o bryd hi yw hwylusydd prosiect llwyddianus Ieuenctid People Speak Up.


    Donna Lee Lewis

    Gweinyddydd

    Weirdo chwilfrydig. Handi o gwtshlyd. Cwicsotig. Darllen drwy’r amser. Tueddu at y doniol. Taniwyd gan caffeine. Gallu chwarae’n dda gydag eraill. 


    Ffion Weston

    Hwylysydd YPSU a Swyddog Cynhwysiad

    Dechreuodd Ffion wirfoddoli gyda Ieuenctid People Speak Up yn ystod blwyddyn ola ei gradd BA Drama Cymhwysedig yn PCYDDS ac yna daeth yn cyd-hwylysydd ar brosiect Ieuenctid People Speak Up wedi graddio yn 2020. Roedd gweithio gyda pobl ifanc ar y cynllun yma wedi cynyddu diddordeb Ffion i greu a hwyluso gweithdai llesiant creadigol i bobl o bob oedran, ynghyd â gwneud gweithdai’n agored i bawb gan ei bod hi’n byw gyda ADHD.


    Kris Grogan

    Hwylysydd

    Cysylltiad cynta Kris gyda PSU oedd cymryd rhan mewn prosiect ac mae sawl cam in i’w daith ers hynny – o gymryd rhan, i wirfoddolwr i hwylysydd. Hefyd, graddiodd yn 2022, gyda BA Drama Cymhwysedig o PCYDDS. Mae’n angerddol ynglŷn â’i ganu a’r Gwaith mae nawr yn ei wneud.


    Abbie Hudson

    Ymddiriedolwr

    Mae Abbie yn gweithio o fewn tîm Recriwtio Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, sefydliad addysg bellach ac uwch gyda champysau yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Fel rhan o'i rôl ar y Bwrdd, mae hi'n rhoi cefnogaeth mewn materion AD a gweithlu. Wedi'i magu ar hyd ei hoes yn Llanelli, dywedodd ei bod yn 'bleser ac yn fraint bod yn rhan o genhadaeth PSU a gwylio sut maen nhw'n cysylltu pobl angerddol o fewn y gymuned ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer creadigrwydd i unrhyw un a phawb.'


    Suzanne Carter

    Rheolwr Marchnata Llawrydd

    Mae Suzanne wedi bod yn gweithio ym meysydd marchnata celfyddydau, diwylliant a digwyddiadau ers dros 20 mlynedd.

    Yn gyn-ohebydd newyddion a chyflwynydd ar orsafoedd radio yn ne Cymru, cafodd ei blas cyntaf ar farchnata tra'n gweithio yn The Wave a Swansea Sound yn y 00au cynnar.

    Mae hi wedi gweithio gydag awdurdodau lleol, sefydliadau annibynnol, elusennol a diwylliannol gan gynnwys CBS Castell-nedd Port Talbot, CBS Blaenau Gwent, Theatr Sherman a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Fel gweithiwr llawrydd mae hi'n cefnogi PSU gyda throsolwg strategol o bopeth sy'n ymwneud â chyfathrebu ac yn helpu'r tîm i gynyddu ymwybyddiaeth o'r gwaith anhygoel y mae'r tîm yn ei wneud wythnos ar ôl wythnos.


    Charley Piercey

    Gweinyddol

    Mae Charlie wedi bod yn gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth am dros 15 mlynedd. Fel cerddor a chyfansoddwr mae wedi teithio'r DU ac Ewrop gyda llawer o artistiaid gwahanol ac wedi ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer teledu a chyfryngau eraill ar draws sawl genre. Gyda chefndir pellach mewn gweinyddu'r celfyddydau, mae Charlie bellach yn goruchwylio dyletswyddau gweinyddol ar gyfer PSU yn ogystal â gweithredu fel PA i'r cyfarwyddydd Eleanor Shaw.


  • Our Board

  • Our Associate Artists

  • Become a Volunteer