Rhaglen People Speak Up

Hyd 2023-Mawrth 2024

Yn ystod Hydref 2023 - Mawrth 2024, derbyniodd PSU grant Creu CCC i ddatblygu'r rhaglen Lles Creadigol yn People Speak Up, canolfan celfyddyd, iechyd a lles Llanelli - amser a gofod i'r gymuned gysylltu'n greadigol a dod o hyd i'w llais trwy adrodd straeon, gair llafar, ysgrifennu creadigol, celfyddydau digidol, celfyddydau gweledol, gwirfoddoli a sgyrsiau creadigol.

Nodau'r prosiect:

  • Datblygu'r rhaglen lles artistig trwy ddiwallu anghenion ein cymuned amrywiol.
  • Creu llwyfan i artistiaid proffesiynol sy'n dod i'r amlwg ac wedi'u sefydlu i ymarfer eu ffurf gelfyddydol mewn lleoliad cymunedol, wedi'u cefnogi gan hwyluswyr creadigol PSU.
  • Gweithredu cynllun gwrth-hiliaeth PSU a gweithredu'r hyn a ddysgwyd.
  • Cefnogaeth lles i'r Tîm Creadigol trwy gynnig sesiynau hyfforddi bob pythefnos gyda'r hyfforddwr bywyd Ali Franks.
  • Datblygu partneriaethau presennol a datblygu partneriaethau newydd

Outcomes

  • Partneriaethau newydd: Canolfan Y Gors, artist a chwmnïau sy'n dod i'r amlwg (La Physical, Josh Jones, Tia Zakura Camilleri, Kerry Stead, Donna Males, Community 4 Work CCC, Owen Griffiths, CAT) Gorymdaith Llusernau Gyntaf ar gyfer cymuned Llanelli mewn partneriaeth â Thîm Adfywio Tyisha, LMCN, Cyngor Tref Llanelli. Digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod wedi gwerthu allan gyda LMCN a'r gymuned Bwylaidd, Creu 2 ofod ar gyfer myfyrwyr drama gymhwysol PCYDDS.
  • Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth yn cael ei weithredu.
  • 12 sesiwn lles ar gyfer y tîm creadigol.
  • Straeon MSC i'w rhoi mewn swigen
  • Ystadegau arolwg i'w rhoi mewn swigen

Straeon newidiadau mwyaf arwyddocaol.

People Speak Up - Ffwrnes Fach

  • Mae'n lle i ddod a chael coffi gyda ffrindiau, rydym wedi cwrdd â phobl o'n hoedran ni sy'n deall beth yw e i fynd yn hŷn, ma’ angen cwmni eich cenhedlaeth eich hunan arnoch.
    Dros 50 Oed

  • Mae fy iechyd meddwl yn sylweddol well. Dw i ddim yn teimlo'n ynysig nac yn unig mwyach. Mae gen i fwy o gyfeiriad o ran fy ngyrfa, gweithiodd i fi'n gymdeithasol ac yn broffesiynol
    Stori, Gofalu, Rhannu

Project Partners